Back To News

John Thomas, Pencerdd Gwalia

Ar Ddydd Gwyl Dewi 1826, ganwyd y telynor byd-enwog John Thomas ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Daeth o deulu cerddorol tu hwnt – roedd ei dad yn canu’r clarinet a death tri arall o’i frodyr a chwiorydd yn delynorion. Roedd yn blentyn uniaith Gymraeg a chanodd y Delyn deires yn y ffordd Gymreig draddodiadol. Roedd ganddo cysylltiadau cryf â Maesteg, a pherfformiodd gyngerdd yn Neuadd y Dref.

Cyn hir fe ddaeth yn i sylw enowgion megis Ada Lovelace, merch yr Arglwydd Byron, a gyfrannodd tuag at gost ei addysg gerddorol, wedi iddo enill sawl eisteddfod a chael ei wahodd i Lundain i ganu’r delyn gan arlywydd yr Eisteddfod yn 12 oed.

Aeth ei yrfa o nerth i nerth, a death e’n delynor i’r Opera Eidalig Brenhinol, yn athro yn yr Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol, ac yn delynor i’r Frenhines Victoria ac Edward VII. Yn 1861, yn eisteddfod Aberdâr, rhoddwyd y teitl Pencerdd Gwalia iddo, a’r flwyddyn honno cyhoeddodd ei lyfr o donau Cymreig traddodiadol.

Roedd e hefyd yn gyfansoddwr ac yn drefnwr cerddoriaeth o fry, ac mae ei gerddoriaeth dal i gael ei ganu’n rheolaidd heddiw – gan gynnwys ei drefniant o Bugeilio’r Gwenith Gwyn, cân Wil Hopcyn, Llangynwyd i’r Ferch o Gefn Ydfa.

Ei Gysylltiad â Maesteg

Roedd tad John Thomas yn flaenor yng nghapel Tabor Maesteg (yr adeilad sydd bellach yn Glwb y Gweithwyr Maesteg), ac yn Ionawr 1884, perfformiodd y Telynor mewn cyngerdd mawreddog yn Neuadd y Dref er mwyn codi arian at dalu dyledion capel Hermon, Garth a chapel Moriah, Pontrhydycyff ger Llangynwyd. Roedd y Neuadd yn llawn a chafodd dau neu dri encore gan y delynor. Oherwydd ei gysylltiad at y capeli ac at Gwm Llynfi, rhoddodd ei berfformiad am ddim.