Back To News

Llyfrgell Maesteg yn 65 oed – Gorffennol Gwych a Dyfodol Disglair

Roedd Llyfrgell Maesteg yn 65 oed yn 2020 – gwasanaeth â dyhead hir amdano a agorodd ei ddrysau ym 1995, ynghŷd â Chaerffili y llyfrgell gyntaf wedi’i hadeiladu yn arbennig at y ddiben honno ers yr Ail Ryfel Byd.

Y flwyddyn ganlynol ymddangosodd adroddiad yn y Glamorgan Gazette am lwyddiant mawr y llyfrgell a’i derbyniad gwresog gan bobl Cwm Llynfi.

Yes – Maesteg’s library was well worthwhile.

For years there was a public outcry at Maesteg for a county library branch. For a long time it seemed that it was nothing more than a dream. Students became despondent, the Town Council almost gave up the ghost. But all was not lost.

During its first year, 94,577 books were borrowed from the Maesteg branch.

Oherwydd y gyfradd uchel o fenthyciadau llyfrau ffeithiol – y gyfradd uchaf ym Morgannwg, honnodd yr erthygl: It would seem that the reading public of the Llynfi Valley are slightly more high-brow than the rest of Glamorgan.

Nodedig hefyd oedd y galw mawr am lyfrau Cymraeg.

The demand for Welsh books was expected in Tir Iarll – a district renowned for its literary traditions and for its association with every phase of Welsh culture – but the extent of the demand has been most gratifying and an inspiration to those concerned about the future of the native tongue.

Pennod Newydd

Mae Llyfrgell Maesteg yn rhan annatod o ailddatblygiad Neuadd y Dref Maesteg, a chaiff ei hail-leoli, ynghŷd a’r Llyfrgell Hanes Lleol a Theulu, a Chanolfan Dreftadaeth newydd, i gyn Neuadd y Farchnad, gan  ateb galwad a wnaethpwyd yn seremoni agor Neuadd y Dref yn 1881:

There might be a brain power waiting to be educated into action. It was impossible to say how many men, out of thousands in Maesteg, would have become benefactors to their country if a library and reading-room were established there . . .
Bridged Chronicle, 28 Hydref 1881

Dywedodd Helen Pridham, Rheolwr Gweithrediadau ac Arloesi Llyfrgelloedd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae gan lyfrgell bresennol y dref awyrgylch hyfryd (ac newydd ddathlu ei phenblwydd yn 65), ond mae cyfyngiadau ar adeilad 65 oed o’r fath, ac rydym ni am wneud cymaint mwy.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael y llyfrgell reit yng nghanol y dref – ry’n ni am iddi gyflawni sut gymaint o bethau – i fod yn lle cymunedol go iawn gyda chroeso i bawb, hafan ddiogel i’r rhai hynny sydd angen ailwampio neu ymlacio, lle i astudio gyda mynediad at wybodaeth a chyfleusterau o safon, awyrgylch hwyl i blant gyda digon o gyfleoedd ar gyfer gwiethgareddau a digwyddiadau , lle i gymdeithasu, cwrdd, rhyngweithio, dysgu, gwirfoddoli, sgwrsio ac yfed coffi.

Dydyn ni ddim am golli awyrgylch y llyfrgell bresennol – ry’n ni am ehangu arno gyda gofod fydd yn gadael i fwy o bobl ei brofi a’i fwynhau.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn enwedig at gael y llyfrgell Hanes Lleol a Theulu a llyfrgell y dre at ei gilydd – ac at greu cyfleoedd i blant ddysgu am hanes eu cymuned; a chynnig cyfleodd i bobl wirfoddoli i helpu rhannu’r stori honno.

Gwyn fy myd mewn cadair glyd wrth ford goffi gyda lamp a diod twym, a fy hoff lyfr newydd ar fy nghôl wrth aros i’r Clwb Llyfrau ddechrau!”