Back To News

Neuadd y Dref Newydd, 1881

Mae’r celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o fywyd yng Nghwm Llynfi am genedlaethau lawer, a chyn i Neuadd y Dref gael ei hadeiladu, cartref y rhain oedd capeli ac eisteddfodau lleol.

Cynhaliwyd yr eisteddfod gynharaf i ddigwydd ym Maesteg y mae gennym ni cofnod amdani yn Nhafarn y Coytrahen Arms ym 1838. Mewn sefyllfa amherffaith iawn, roedd rhaid i’r eisteddfod gwasgaru i gapel Carmel gerllaw. Mae’n siwr y bu sefyllfaoedd tebyg ar hyd a lled y cwm. Pan agorodd Neuadd y Dref Maesteg mynegodd y Parch Edward Jones, Capel Tabernacl ei ryddhad am fod gan y cwm rhywle seciwlar i gynnal digwyddiadau diwylliannol.
“[The Chapels] were blamed for holding concerts and eisteddfodau in their chapels . . . As there was no other place at their disposal they were bound to make use of their chapels for these purposes. Now, however, they had a place in which they could concerts and eisteddfodau. He expected that in time to come Maesteg would be a prosperous place.”

Roedd yr angen am Neuadd y Dref yn amlwg am flynyddoedd lawer cyn i’r gwaith ddechrau, a chyn bod yna lawer o dref o gwbl, fel y mynegwyd yn y dyfyniad hwn o’r Cardiff Times, Tachwedd 6ed 1869

TOWN-HALL—This place, different to others of less note, has been heretofore without any hall to hold public meetings, concerts, lectures and entertainments. We hear however, that such a building, intended also to comprise accommodation for the instruction and amusement of the working class after hours of labour, is in contemplation.

Bu’r un papur newydd yn cwyno am ddiffyg cynnydd fel “considerable disappointment to the public” 28ain Mawrth 1874.
Roedd cynlluniau ar un adeg i adeiladu Neuadd y Dref ar y Garn tu cefn i gapel Carmel.

O’r diwedd, ym 1880, a Stryd Talbot heb ei hadeiladu eto a chanol y dref yn ddim mwy na Commercial Street, dechreuodd y gwaith ar Neuadd y Dref Maesteg ar darn o dir a elwid Cae Tri Chornel, sydd yn esbonio siap anarferol yr adeilad. Y pensaer oedd Mr. H.C Harries o Gaerdydd.

Gosodwyd y garreg sylfaen ar 31ain Hydref 1880 gan C.R.M Talbot AS, a roddodd £500 at gost yr adeilad. Rhoddodd glowyr Cwm Llynfi ddiwrnod o gyflog at gost y gwaith, wnaeth rhagori amcamgyfrif y gost o £3000.
Yn ei lyfr Ty’r Llwyni, 1961, mae David Davies yn cofio Mr Talbot yn nodi cynnydd Maesteg wrth iddo osod y garreg.

“how great the advancement was, that Maesteg had made in recent years, and referred to the time when it was just a wooded valley, the only in habitants being owls and ravens.”

O’r diwedd, agorwyd Neuadd y Dref Maesteg ar 22ain Hydref 1881 gan Mr David Chadwick, cadeirydd Cwmni Llynfi a Thondu, a ddisgrifiodd y yr adeilad fel “magnificent momento of the public spirit of Maesteg” Cafwyd gorymdaith at y Neuadd wedi’i harwain gan Fand Pres Maesteg, a bu dros 1000 o bobl yn bresennol yn y cwrdd a ddigwyddai yn y Neuadd wedi hynny, tua 10% o boblogaeth y dref y pryd hynny. Rhoddodd Mr Chadwick yr allwedd i Mr D. Grey, cadeirydd y bwrdd iechyd, a ddywedodd: “It was not the Town Hall of a party – the Hall of a few – but that the building belonged to the people of Maesteg”. Chwaraeodd y band Rhyfelgyrch Gwyr Harlech i gau’r achlysur.

Y noson honno cynhaliwyd cyngerdd fawreddog ac roedd y Neuadd yn llawn.

 

Mae’r ymroddiad y dangosid gan weithwyr Cwm Llynfi yn rhoi eu cyflog at gost codi’r adeilad yn cael ei adlewyrchu gan yr ymdeimlad o bernhnogaeth a balchder sydd gan bobl Maesteg a’r cylch tuag at eu Neuadd hyd heddiw. Dywedwyd yn seremoni agor y Neuadd:

“Everyone of them therefore who looked upon that grand and useful edifice as being a portion of his own individual property”

Cafodd Neuadd y Dref Maesteg ei hadnewyddu’n helaeth yn 1914. Roedd yr adeilad wreiddiol yn edrych yn wahanol iawn i sut mae hi’n edrych heddiw, gyda llwyfan llai, balconi yn edrych dros y sgwâr a ffasâd ceinach.

The building is of Queen Anne style of architecture, a style now greatly in vogue. The hall is 85 feet long, by 45 feet broad, and 40 feet high, with a gallery capable of seating 350 persons; the ground floor is covered by a commodious Market-place, Board-rooms &c. The great hall is reached from the street by a double flight of stairs; the stage is admirably constructed with most convenient retiring rooms, cloak room, and a first-class entrance.
‘History of Llangynwyd Parish’ gan Cadrawd, 1887

Dywedwyd yn y Bridgend Chronicl ar 28ain Hydref 1881:

“Maesteg at the present moment possesses a building which, for architectural beauty, cannot be surpassed in South Wales”

Hir oes iddi.