Back To News

Yr Hen Swyddfa Docynnau

Drws y bydd llawer yn ei adnabod, ond nid o’r ongl yma! Mae aelodau cymdeithasau Cwm Llynfi wedi treulio oriau y tu ôl i ddrws yr hen swyddfa docynnau ar sgwâr Neuadd y Dref yn gwerthu tocynnau ar gyfer sioeau a digwyddiadau. Mae’r ystafell nawr wedi mynd i greu lle ar gyfer canolfan dreftadaeth newydd, a chaiff y drws ei ail-ffurfio’n ffenestr, fel y bu ar façade 1914 yr adeilad.