Dilynwch daith yr adnewyddiad
Cwpolau Gorffenedig
Cwpolau gwrthdywydd gorffenedig Neuadd y Dref Maesteg wedi e atgyweirio'n llawn.
Darllenwch mwy
Grisiau Cefn y Llwyfan Wedi'u Cymryd Ymaith
Mae'r grisiau wnaeth arwain o gefn y llwyfan i'r orsaf fysiau wedi eu cymryd ymaith, a sgaffaldau wedi eu gosod er mwyn creu llawr newydd yn eu lle, er mwyn creu mwy o le i'r ystafelloedd newid fydd o les mawr i grwpiau perfformio a chynhyrchiadau mawr.
Prawf Cloddio Sylfeini
Mae mae prawf cloddio sylfeini wedi bod, er mwyn gallu creu lefel newydd fydd yn cynnwys toiledau newydd.
Mae cwpolau Neuadd y Dref Maesteg wedi eu hailadeiladu ac yn cael eu ailosod ar brif do yr adeilad.
Ailadeiladu Cwpolau Neuadd y Dref
Mae cwpolau Neuadd y Dref Maesteg – yr adeiladweithiau pren ar do yr adeilad, yn cael eu cymryd ymaith, eu hailgreu, eu hailblymio a’u hailosod er mwyn iddyn nhw ffurfio rhan o system awyriad y Neuadd, yn unol a’u pwrpas gwreiddiol.
Darllenwch mwy
Lolfa'r Llynfi
Roedd Lolfa’r Llynfi ar gau i’r cyhoedd am fisoedd cyn i Neuadd y Dref gau am gyfnod oherwydd ansefydlogrwydd y nenfwd. Mae’r nenfwd yn cael ei gyfnerthu a bydd y lolfa yn ffurfio swyddfeydd newydd Neadd y Dref.
Peirianwaith ein Cloc Eiconig yn barod i gael ei Atgyweirio!
Glanhau Adeiladwaith yn dadorchuddio Bric a Cherrig Gwreiddiol
Mae glanhau’r adeiladwaith yn hen neuadd y farchnad wedi parhau, gan ddadguddio bric a cherrig gwreiddiol a chaiff eu cadw yn y Llyfrgell a gofod cymunedol newydd.
Darllenwch mwy
AAtgyfnerthu Trawstiau'r Prif Do
Mae trawstiau’r prif do yn cael eu hatgyfnerthu i’w sefydlu ac atal unrhyw symudiad pellach. Gyda nenfwd y neuadd wedi’i gymryd ymaith, mae bachau wedi’u gosod er mwyn cryfhau a sefydlu’r nenfwd newydd.
Paratoadau ar gyfer Trawst i asio’r Hen Adeilad a’r Newydd
Mae wal gerrig y Neuadd ar ochr Stryd Talbot ar lefel y to yn cael ei baratoi’n ofalus er mwyn derbyn trawst concrit newydd.
Darllenwch mwy
Paratoadau ar gyfer System Awyriad Newydd
Mae brigdrawstiau wedi eu gosod o fewn croglofft Neuadd y Dref er mwyn dal offer awyriad newydd
Darllenwch mwy
Atgyweirio Cloc Eiconig Neuadd y Dref
Mae ein cloc eiconig wedi’i ddatgysylltu a’i fecanwaith wedi’i gymryd ymaith er mwyn sicrhau mynediad haws ar gyfer gwelliannau strwythurol i’r tŵr, ac i’w ddiogelu yn ystod y broses.
Darllenwch mwy
Golwg o ben y Sgaffaldiau
Golwg unigryw o arch broseniwm odidog Neuadd y Dref Maesteg o ben y sgaffaldiau cawell aderyn a ddefnyddiwyd i gymeryd i lawr yr hen nenfwd coch. Mae'r groglofft i'w gweld ar hyn o bryd rhwng y trawstiau.
Datgelu Deunyddiau Gwreiddiol
Mae'n debyg i'r arch wreiddiol 1881 hon gael ei llenwi y ystod ailddatblygiad Neuadd y Dref yn 1914
Darllenwch mwy
To Newydd i'r Neuadd
Mae to Neuadd y Dref Maesteg ar hyn o bryd yn cael ei ailosod gyda llechi naturiol.
Sgaffaldau wedi'i codi trwy'r Neuadd
Mae sgaffaldiau "cawell aderyn" wedi'u codi trwy'r awditoriwm er mwyn galluogi i'r hen nenfwd gael ei gymeryd ymaith.
Gwagio’r Bar yn Datgelu Colofnau Haearn Addurniedig
Wrth wagio’r bar, datgelwyd colofnau haearn addurniedig na welwyd ers degawdau. Caiff y rhain eu hatgyweirio a’u cadw o fewn y neuadd.
Darllenwch mwy
Paneli a Gwaith Pren Addurniedig wedi’u Datguddio
Mae’r peneli laminedig o’r 70au fu o amgylch y neuadd wed’u cymryd ymaith, gan ddatgelu gwaith pren addurniedig o dan y llwyfan, yn ogystal â phaneli pren henach ar hyd ddwy ochr y neuadd.
Darllenwch mwy
Llwyfan Gwreiddiol 1881/1914 wedi’i Datguddio
Mae llawr y llwyfan – a gafodd ei godi degawdau yn ôl i lefel uwch nag ardaloedd cefn y llwyfan – wedi’i gymryd ymaith, gan ddatguddio’r llwyfan wreiddiol 1881/1914 oddi tano.
Darllenwch mwy
Yr Hen Swyddfa Docynnau
Drws bydd llawer yn ei adnabod, ond nid o’r ongl yma! Mae aelodau cymdeithasau Cwm Llynfi wedi treulio oriau y tu ôl i ddrws yr hen swyddfa docynnau ar sgwâr Neuadd y Dref yn gwerthu tocynnau ar gyfer sioeau a digwyddiadau.
Darllenwch mwy
Ffenestri a Drysau sydd wedi’u Gorchuddio i gael eu Hagor Eto
Caiff y ffenestri a’r drysau ar hyd ddwy ochr y neuadd sydd wedi’u gorchuddio ar hyn o bryd eu hagor er mwyn oleuo’r lle cyfan, a chaiff y muriau lliwgar eu carthu i ddatguddio’r cerrig a bric gwreiddiol.
Darllenwch mwy
Gwagio'r Neuadd Is yn Datguddio Gofod Enfawr
Mae’r Neuadd is wedi’i gwagio’n llwyr i ddatguddio gofod enfawr na welwyd ers degawdau. Bydd yr ardal hon yn gartref i lyfrgell newydd i Faesteg, canolfan dreftadaeth, llyfrgell plant, ystafelloedd i’w llogi ac ar gyfer defnydd cymunedol, a chaffi.
Darllenwch mwy
Go Behind-the-Scenes of Christopher Williams Painting Conservation
Darllenwch mwy
Paratoadau ar gyfer Tô Newydd
Mae sgaffaldiau wed’u gosod o amgylch y Neuadd, mae llechi’r tô wedi’u cymryd oddi arno er mwyn i lechi naturiol gael eu gosod yn eu lle
Darllenwch mwy
Brics Lleol Wedi’u Canfod
Mae Neuadd y Dref Maesteg wedi cael llawer o weddnewidiadau dros y blynyddoedd. Dyma bric ry’n ni wedi’i ganfod o un o’r datblygiadau diweddara – efallai ailddatblygiad 1914 – cynnyrch gweithfeydd brics Eagle, Cwmafan, oedd yn weithgredol rhwng 1907 a 1967
Darllenwch mwy
Grisiau’r Neuadd yn cael eu Dymchwel i Greu Mynediad Cydradd
Mae grisiau a mynedfa Neuadd y Dref wedi’u dymchwel i greu lle ar gyfer lifft newydd fydd yn sicrhau mynediad cydradd i bawb. Caiff y grisiau newydd eu hadeiladu o amgylch y lifft, o fewn ein cyntedd newydd.
Darllenwch mwy
An Interview with the Architect
We are committed to using local people and businesses on the Maesteg Town Hall redevelopment, wherever possible and practical. One of the main contributors from Purcell Architects is Ross Hartland. Originally from Ogmore Vale, Ross studied both his BSc (Hons) and Masters at the Welsh School of Architecture, where he graduated with First Class Honours and was nominated for an RIBA Presidents Medal in 2016.
Darllenwch mwy
Mae darluniau gan yr artist lleol enwog Christopher Williams wedi gadael Neuadd y Dref Maesteg i gael eu hadnewyddu
Mae chwech o ddarluniau gan yr artist o Faesteg, Christopher Williams (1873 –1934) wedi gadael Neuadd y Dref Maesteg dros dro er mwyn iddyn nhw gael eu hadnewyddu.
Darllenwch mwyCylchlythyr
Mae Neuadd y Dref Maesteg yn falch iawn iddi gael ei chefnogi gan y gymuned leol ers dyddiau y glowyr a roddodd ddiwrnod o gyflog er mwyn ariannu adeiladu’r Neuadd.
Dyma sut y gallwch chi gefnogi pennod nesaf yr adeilad eiconig hwn.